Skip to content
£243,000 wedi’u tandalu i weithwyr yng Nghaerdydd oherwydd torri rheolau’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol

Press release -

£243,000 wedi’u tandalu i weithwyr yng Nghaerdydd oherwydd torri rheolau’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol

Yn ôl Cyllid a Thollau EF (CThEF), talwyd llai na’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol i dros 450 o weithwyr yng Nghaerdydd y llynedd. Achosodd hyn dandaliad o £243,000.

Mae CThEF yn ysgrifennu at fwy na 5,000 o gyflogwyr yn ardal Caerdydd i dynnu sylw at y camgymeriadau cyffredin wrth ddelio â’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol (NMW) a’r Cyflog Byw Cenedlaethol (NLW) - gan gynnig cymorth i’w helpu i gael pob dim yn iawn a’u hatgoffa am eu hymrwymiadau cyfreithiol.

O bryd i’w gilydd, wrth gyfrifo cyflog nid yw cyflogwyr yn ystyried didyniadau na thaliadau am eitemau sy’n gysylltiedig â swydd, megis gwisg unffurf. Mae hynny’n gallu mynd â gweithwyr o dan yr isafswm cyflog. Ymhlith camgymeriadau eraill, mae peidio â thalu cyflogeion am eu hamser llawn yn y gwaith, peidio talu am amser hyfforddiant, ac am beidio â thalu prentisiaid yn gywir.

Gallai busnesau sy’n methu â chydymffurfio â’r rheolau o ran isafswm cyflog wynebu cosbau o hyd at 200% o’u hôl-ddyledion – yn ogystal â gorfod talu’r ôl-ddyledion sy’n ddyledus i weithwyr. Gallai cyflogwyr gael eu henwi’n gyhoeddus hefyd.

Dywedodd Marc Gill, Cyfarwyddwr Cydymffurfiad Unigolion a Busnesau Bach, CThEF:

Ry’n ni eisiau gweld gweithwyr yng Nghaerdydd yn cael cyflog teg o dan reolau isafswm cyflog, a chyfrifoldeb eu cyflogwyr yw sicrhau bod hynny’n digwydd.

“Bydd yr wybodaeth sydd gyda ni i’w rhannu a’n rhestr wirio yn helpu cyflogwyr i dalu beth mae eu gweithwyr yn ei haeddu a’u helpu i ddod o hyd i unrhyw gamgymeriadau posibl, fel y gallan nhw sicrhau nad yw eu staff ar eu colled.”

Y pum rheswm mwyaf cyffredin am dandalu’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol yw:

  1. Amser yn cael ei ychwanegu ar ddechrau neu ddiwedd eich sifft nad ydych yn cael eich talu amdano:
    • Gallai hyn fod yn gyfarfodydd rhannu gwybodaeth rhwng sifftiau, cwblhau gwiriadau diogelwch neu lanhau ar ddechrau neu ddiwedd eich sifft, ac ni chewch eich talu am yr amser ychwanegol rydych yn ei dreulio’n gweithio.
  2. Amser teithio nad ydych yn cael eich talu amdano:
    • Os oes rhaid i chi deithio mewn cysylltiad â’ch swydd ac ni chewch eich talu am yr amser hwn. Mae hyn yn cynnwys teithio o un aseiniad gwaith i’r llall neu deithio i fynychu hyfforddiant. Nid yw’n cynnwys teithio rhwng y gwaith a chartref.
  3. Amser hyfforddi nad ydych yn cael eich talu amdano:
    • Os oes rhaid i chi dreulio amser mewn hyfforddiant sy’n gysylltiedig â’ch swydd ac nid ydych yn cael eich talu am yr amser hwn
    • Mae hyn yn cynnwys hyfforddiant sy’n digwydd yn y gwaith, gartref, neu y tu allan i’ch oriau gweithio arferol.
  4. Talu am eitemau sy’n gysylltiedig â’ch swydd, sy’n cael eu didynnu o’ch cyflog ac a allai fynd â chi o dan yr isafswm cyflog:
    • Mae hyn yn cynnwys pethau fel talu am gyfarpar, offer, gwisgoedd unffurf, neu ddillad sydd eu hangen i fodloni cod gwisg.
  5. Camgymeriadau wrth dalu prentisiaid:
    • Peidio â thalu am yr holl amser a weithiwyd.
    • Methiant i dalu’r isafswm cyflog yn dilyn y cynnydd blynyddol.

Mae CThEF hefyd yn cynnig trefnu galwad ffôn rhad ac am ddim gydag un o’n harbenigwyr Isafswm Cyflog Cenedlaethol / Cyflog Byw Cenedlaethol i oddeutu 1,400 o gyflogwyr yng Nghaerdydd i gynnig cymorth. Yn ystod y galwadau hyn, gall cyflogwyr drafod unrhyw bryderon am yr isafswm cyflog a gofyn unrhyw gwestiynau. Gall CThEF helpu i ddod o hyd i unrhyw gamgymeriadau a helpu i unioni pethau os oes angen. Os bydd busnes yn cywiro’r camgymeriadau o ganlyniad i’r alwad, ni fydd CThEF yn codi unrhyw gosbau.

Gall cyflogwyr gael mynediad at gymorth ar unrhyw adeg i sicrhau eu bod yn talu’r NMW cywir, drwy wneud y canlynol:

  • darllen y canllaw i gyflogwyr ar-lein ar gyfrifo’r isafswm cyflog
  • cysylltu â Llinell gymorth ACAS ar 0300 123 1150 am gyngor cyfrinachol, yn rhad ac am ddim (o ddydd Llun i Ddydd Gwener, 9am tan 5pm)
  • gwylio fideos o’n weminarau ar bynciau amrywiol yn ymwneud â’r isafswm cyflog drwy glicio ar y cysylltiad hwn: fideos a gweminarau ar yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol

Cefndir

  1. Mae’r llythyrau’n rhan o weithgarwch allgymorth cydymffurfio arferol CThEF, sy’n canolbwyntio ar feysydd penodol o’r DU drwy gynnig cymorth a helpu busnesau i ddod o hyd i’r risgiau.
  2. Mae rhagor o wybodaeth am yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol, gan gynnwys pwy sy’n gymwys, ar gael ar GOV.UK yn:
  3. Mae Cyllid a Thollau EF(CThEF) yn gyfrifol am orfodi’r ddeddfwriaeth o ran yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol. Mae’r Adran Busnes a Masnach yn gyfrifol am bolisi’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol (NMW) a’r Cyflog Byw Cenedlaethol (NLW).
  4. Cyfraddau’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol ar hyn o bryd fesul awr, o 1 Ebrill 2023, yw:
      • 23 oed neu’n hŷn (Cyflog Byw Cenedlaethol): £10.42
      • 21 i 22 oed: £10.18
      • 18 i 20 oed: £7.49
      • O dan 18 oed: £5.28
      • Prentis: £5.28
  5. Yn ôl y gyfraith, mae’n rhaid talu o leiaf yr isafswm cyflog i weithwyr yn ôl eu hoedran am yr amser maen nhw’n ei dreulio’n gweithio. Os oes pobl yn amau bod nhw heb gael eu talu ddigon, gallant roi gwybod i CThEF ar-lein am hyn yn: https://www.gov.uk/minimum-wage-complaint neu drwy gysylltu â Llinell gymorth ACAS ar 0300 123 1150 am gyngor cyfrinachol, yn rhad ac am ddim.
  6. Gall cyflogwyr sydd ddim yn talu’r NMW gael eu ‘henwi’ yn gyhoeddus. Cyhoeddwyd y rhestr ddiweddaraf gan yr Adran Busnes a Masnach (DBT) ar 21 Mehefin 2023. Gall y rheiny sy’n mynd ati’n fwriadol i beidio â chydymffurfio wynebu erlyniad troseddol, ond unwaith bod y rhan fwyaf o’r cyflogwyr yn sylweddoli bod camgymeriadau wedi digwydd maent yn talu’r gwahaniaeth i’w gweithwyr am eu bod eisiau unioni pethau.
  7. Dilynwch Swyddfa Wasg CThEF ar Twitter @HMRCpressoffice

Topics

Categories

Regions


Issued by HM Revenue & Customs Press Office

HM Revenue & Customs (HMRC) is the UK’s tax authority.

HMRC is responsible for making sure that the money is available to fund the UK’s public services and for helping families and individuals with targeted financial support.

Contacts

HMRC Press Office

HMRC Press Office

Press contact 03000 585 018
HMRC Press Office Out Of Hours Contact

HMRC Press Office Out Of Hours Contact

Press contact 03000 538 775

HMRC Press Officer - Devolved Nations (WL)

Press Officer Devolved Nations 03000 519 451

HM Revenue & Customs (HMRC) is the UK’s tax authority

HMRC is responsible for making sure that the money is available to fund the UK’s public services and for helping families and individuals with targeted financial support.

HM Revenue & Customs (HMRC)
100 Parliament St
SW1A 2BQ London