Press release -
Lansio rhaglen gan CThEM i addysgu plant ynghylch treth yn y Gymraeg
Datganodd CThEM heddiw bod rhaglen addysgiadol rhad ac am ddim, sy'n cynnig cyflwyniad syml i dreth ar gyfer plant ysgolion cynradd, ar gael yn awr i blant Cymraeg.
Mae Ffeithiau Treth ar gyfer Plant Iau, sydd eisoes ar gael yn Saesneg, yn cynnwys animeiddiadau sy'n diddanu a chynlluniau gwersi ar gyfer athrawon. Y diben yw addysgu plant rhwng 8 ac 11 mlwydd oed, o ble y daw'r arian sy'n talu am bethau sy'n hanfodol iddyn nhw, i'w teuluoedd ac i'w cymunedau - megis trafnidiaeth gyhoeddus, yr heddlu, doctoriaid a'u hysgol.
Bydd hefyd yn rhoi'r cyfle i'r plant ymarfer sgiliau pwysig y byddant eu hangen yn hwyrach yn eu bywydau, gan gynnwys cyfathrebu a gwrando, llythrennedd a rhifedd, a thrafod a dadlau.
Dywedodd Angela MacDonald, Cyfarwyddwr Cyffredinol CThEM ar gyfer Gwasanaethau i Gwsmeriaid:
"Bydd ehangu Ffeithiau Treth ar gyfer Plant Iau i'r Gymraeg yn agor y drws i'r rhaglen, a'r manteision y mae'n eu cyflwyno, i lawer mwy o blant.
"Mae'n helpu plant i ddeall sut mae treth yn gweithio a'r hyn y mae'n talu amdano. Mae hefyd yn eu cefnogi wrth ddatblygu sgiliau pwysig a fydd yn ddefnyddiol iddynt wrth dyfu'n hŷn."
Mae'r Ffeithiau Treth ar gyfer Plant Iau wedi cynyddu dealltwriaeth pobl ifanc o beth mae CThEM yn ei wneud, a pham mae treth yn cael ei chasglu.
Gallwn weld o'r data a gasglwyd o ysgolion sy'n defnyddio'r rhaglenni bod:
- 97% o blant yn gwybod pwy yw CThEM, o'i gymharu â 3% cyn astudio Ffeithiau Treth ar gyfer Plant Iau;
- 88% o blant yn gwybod pam yr ydym yn casglu treth o'i gymharu â 12% yn flaenorol, a
- 88% o blant yn gwybod bod treth yn cael ei wario ar bethau sy'n bwysig iddyn nhw, i'w teuluoedd ac i gymdeithas o gymharu â 17% cyn hynny.
Ychwanegodd Cathryn Davey, Pennaeth Ysgol Gynradd Llanystumdwy:
"Rwy'n meddwl fod hwn yn adnodd gwych yn enwedig yn y byd economaidd sydd ohoni.
Wrth drafod ffyrdd o wario arian cyhoeddus yn gyfrifol yn ystod sesiynau Ffeithiau Treth ar gyfer Plant Iau, gobeithio bydd y disgyblion yn ogystal yn gallu meddwl am eu harferion gwario yn y dyfodol.
Bydd unrhyw beth sy'n helpu i ddatblygu llythrennedd ariannol ym mhobl ifanc yn adnodd gwerthfawr. Mae'n ddefnyddiol iawn bod hwn ar gael erbyn hyn yn Gymraeg."
Mae Ffeithiau Treth ar gyfer Plant Iau eisoes wedi ei gyflwyno mewn nifer o ysgolion yng Nghymru, ac mae bron i 3,000 o lawr lwythiadau o'r pecyn athrawon ar draws y DU.
Mae rhaglen Ffeithiau Treth ar gyfer plant 11-14 mlwydd oed hefyd ar gael. Bydd hwn ar gael yn Gymraeg yn hwyrach y flwyddyn hon.
Nodiadau i olygyddion:
1.Mae'r animeiddiad o Ffeithiau Treth ar gyfer Plant Iau ar gael ar sianel YouTube CThEM a hefyd ar DVD:
- Fersiwn Cymraeg https://www.youtube.com/watch?v=d9J2g7KuYk8&t=0s&index=6&list=PL8EcnheDt1zjoRLU0I8WEKqqNzdR3w2xI
Fersiwn Saesneg https://www.youtube.com/watch?v=C3_VwZ-Cmac
Mae adnoddau'r athrawon wedi'u cyhoeddi ar wefan y Times Educational Supplement:
Fersiwn Cymraeg https://www.tes.com/teaching-resource/ffeithiau-treth-ar-gyfer-plant-iau-11862980
Fersiwn Saesneg https://www.tes.com/teaching-resource/junior-tax-facts-teachers-pack-11410987
Mae'r deunydd i gyd ar gael yn rhad ac am ddim i'w ddefnyddio gan ysgolion ac elusennau.
- 2.Achredwyd y 'Ffeithiau Treth' (ar gyfer ysgolion uwchradd) a'r 'Ffeithiau Treth ar gyfer Plant Iau' gyda Marciau Ansawdd gan y Grŵp Addysg Ariannol Bersonol (PFEG) a'r Association for Citizenship Teachers (ACT).
- 3.Mae CThEM yn gweithio gyda Phrifysgol De Cymru (PDC) i baratoi athrawon dan hyfforddiant i roi gwersi ar ffeithiau treth i blant ysgolion cynradd Cymraeg a Saesneg. Dechreuodd y sesiynau ymwybyddiaeth i athrawon dan hyfforddiant sydd wedi'u lleoli ar Gampws Casnewydd PDC ym mis Hydref 2017, a byddant yn parhau yn ystod y flwyddyn academaidd hon. Mae'n helpu athrawon i gymryd y deunydd i mewn i'r dosbarth, fel bod plant ifanc yn deall beth yw treth, sut y caiff yr arian ei ddefnyddio a'r cysylltiad gyda gwasanaethau cyhoeddus hanfodol.
4.Gall ysgolion gysylltu â CThEM drwy e-bost i gael rhagor o wybodaeth: hmrc.taxeducation@hmrc.gsi.gov.uk
5.Dilynwch Swyddfa'r Wasg CThEM ar Twitter: @HMRCpressoffice
6.Sianel Flickr CThEM:www.flickr.com/hmrcgovuk
Topics
Regions
Issued by HM Revenue & Customs Press Office
HM Revenue & Customs (HMRC) is the UK’s tax authority.
HMRC is responsible for making sure that the money is available to fund the UK’s public services and for helping families and individuals with targeted financial support.