Skip to content
Mae CThEF yn ei gwneud hi’n flwyddyn newydd ’apus i’r rheiny sy’n ceisio am waith

Press release -

Mae CThEF yn ei gwneud hi’n flwyddyn newydd ’apus i’r rheiny sy’n ceisio am waith

Gyda’r flwyddyn newydd yn adeg boblogaidd i newid swydd, gall y rhai sy’n ceisio newid gyrfa ymuno â’r 1.2 miliwn o bobl y mis sy’n arbed amser gwerthfawr yn barod, drwy lawrlwytho’r ap hanfodol hwn, ar gyfer 2024.

Mae ap CThEF, a gafodd ei agor dros 80 miliwn o weithiau yn 2023, yn caniatáu i bobl ddod o hyd i’w hanes cyflogaeth a’u rhif Yswiriant Gwladol yn gyflym er mwyn trosglwyddo’r rhain i’w cyflogwr newydd. Gallant hyd yn oed cadw eu rhif Yswiriant Gwladol i’w waled ddigidol ar eu ffôn – sy’n helpu’r broses wrth wneud cais neu ddechrau ar swydd newydd.

Gydag ychydig iawn o dapiau, mae cwsmeriaid wedi lawrlwytho eu manylion cyflogaeth bron i 200,000 o weithiau drwy’r ap yn ystod 2023. Fodd bynnag, mae CThEF yn dal i gael tua thair miliwn o alwadau’r flwyddyn, gyda phobl yn gorfod aros ar y ffôn i gael gafael ar wybodaeth y gallant ddod o hyd iddi’n gyflym wrth chwilio’n ddigidol, ar adeg ac mewn lle sy’n addas iddyn nhw.

Yn ystod mis Ionawr, pan fydd cynnydd mewn ymholiadau am hanes cyflogaeth i linell gymorth CThEF, mae CThEF yn annog cwsmeriaid i lawrlwytho ap CThEF, sy’n rhad ac am ddim, ac yn hawdd i’w ddefnyddio, yn lle gwneud hynny. Mae’r ap yn darparu mynediad diogel i faterion treth bersonol, gan eich arbed rhag galwad ffôn ddiangen ac efallai amser aros hir yn gwrando ar yr un hen gerddoriaeth.

Meddai Nigel Huddleston AS, yr Ysgrifennydd Ariannol i’r Trysorlys:

“Pan fydd pobl yn gwneud cais am swydd, y peth olaf maent am ei wneud yw gwastraffu amser ar y ffôn i CThEF i ddod o hyd i’w rhif Yswiriant Gwladol neu god treth, a dyna pam rwy’n annog ceiswyr gwaith i arbed eu hymdrechion eu hunain yn y dyfodol ac ymuno â’r 1.2 miliwn o ddefnyddwyr bob mis a dechrau defnyddio ap ffantastig CThEF.”

Ychwanegodd Myrtle Lloyd, Cyfarwyddwr Cyffredinol CThEF ar gyfer Gwasanaethau i Gwsmeriaid:

“Gyda’r flwyddyn newydd yn dod â chyfleoedd newydd a dyheadau gyrfaol i lawer o bobl, mae ap CThEF yn ffordd wych o gael mynediad diogel i’ch cod treth, rhif Yswiriant Gwladol a manylion cyflogaeth – gwybodaeth y gall cyflogwr newydd ofyn amdani. Bydd ychydig o dapiau yn eich arbed rhag galwad ac mae’r wybodaeth ar gael ar unrhyw adeg.”

Bydd angen i ddefnyddwyr yr ap greu cyfrif neu fewngofnodi os oes ganddynt un eisoes i gael mynediad at eu gwybodaeth bersonol. Os bydd angen i chi greu cyfrif, bydd yr ap yn eich tywys drwy’r broses.

Gellir defnyddio’r ap i gael mynediad at hanes incwm a chyflogaeth, gwybodaeth gyflog, rhif Yswiriant Gwladol, cod treth, a mwy pryd bynnag y mae ei angen. Gallwch lawrlwytho ac argraffu llawer o’r wybodaeth hon yn gyflym drwy’r ap o fewn eiliadau, sy’n golygu nad oes angen ffonio CThEF i ofyn amdani neu ofyn iddi gael ei hanfon drwy’r post.

Nodiadau i Olygyddion

  1. Rhagor o wybodaeth am ap CThEF.
  2. Gall pobl lawrlwytho ap CThEF o’r [App Store] neu o [Google Play]. Mae adolygiadau ar-lein yn dangos bod pobl yn fwy na bodlon ar berfformiad yr ap, gan sgorio [4.8] seren ar yr App Store, a [4.7] ar Google Play.
  3. Ar ôl i gwsmer fewngofnodi i’r ap am y tro cyntaf, gall ddefnyddio dull adnabod yr wyneb, ôl ei fys neu bin 6 digid i gael mynediad cyflym a diogel.
  4. Bydd angen dau fath o dystiolaeth ar gwsmeriaid nad oes ganddynt Ddynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraethi brofi pwy ydynt. Gall hyn gynnwys pasbort y DU a thrwydded yrru’r DU.
  5. Rydym yn annog cwsmeriaid i beidio â rhannu eu ID na’u cyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraethar unrhyw adeg. Gallai rhywun sy’n defnyddio’r manylion hyn ddwyn oddi wrthynt neu wneud hawliad twyllodrus yn eu henw.
  6. Gall defnyddwyr yr ap hefyd elwa o swyddogaethau eraill sydd arno. Mae’r rhain yn cynnwys:
    1. gwirio’u taliadau gan eu cyflogwr
    2. cofrestru ar gyfer Hunanasesiad
    3. gwneud taliad Hunanasesiad
    4. rhoi gwybod am unrhyw newidiadau o ran credydau treth a llenwi eu hadnewyddiadau
    5. cael mynediad at eu cyfrif Cymorth i Gynilo
    6. Defnyddio cyfrifiannell treth CThEF i gyfrifo’i gyflog clir ar ôl didyniadau Treth Incwm ac Yswiriant Gwladol
    7. olrhain ffurflenni a llythyrau y maen wedi anfon atom
    8. gwneud cais am ad-daliad os ydynt wedi talu gormod o dreth
    9. diweddaru eu cyfeiriad
  7. Mae’r ap yn cydweddu â swyddogaethau hygyrchedd cynwysedig ar ffôn clyfar cwsmer gan gynnwys:
    1. gwrth-droi’r lliwiau ac addasu’r lefelau cyferbynnedd
    2. cynyddu maint y testun heb fod y testun yn cael ei gwtogi neu’n gorgyffwrdd
    3. chwilio drwy’r ap gan ddefnyddio ‘switch control/access’
    4. defnyddio ysgogi llais
    5. gwrando ar yr ap gyda darllenydd sgrin
  8. Dilynwch Swyddfa Wasg CThEF ar X (Twitter gynt) @HMRCpressoffice

Topics


Issued by HM Revenue & Customs Press Office

HM Revenue & Customs (HMRC) is the UK’s tax authority.

HMRC is responsible for making sure that the money is available to fund the UK’s public services and for helping families and individuals with targeted financial support.

Contacts

HMRC Press Office

HMRC Press Office

Press contact 03000 585 018
HMRC Press Office Out Of Hours Contact

HMRC Press Office Out Of Hours Contact

Press contact 03000 538 775

HMRC Senior Press Officer (SC)

HMRC Senior Press Officer Devolved 03000 511593

HM Revenue & Customs (HMRC) is the UK’s tax authority

HMRC is responsible for making sure that the money is available to fund the UK’s public services and for helping families and individuals with targeted financial support.

HM Revenue & Customs (HMRC)

100 Parliament St
SW1A 2BQ London