Skip to content
Twyllwr TAW i dalu £1.2m neu bydd yn wynebu rhagor o amser yn y carchar

Press release -

Twyllwr TAW i dalu £1.2m neu bydd yn wynebu rhagor o amser yn y carchar

Mae’n rhaid i dwyllwr sydd wedi’i garcharu, a brynodd dair fila yn Sbaen ar ôl dwyn mwy na £1.2 miliwn oddi ar drethdalwyr, dalu’r arian yn ôl neu bydd yn wynebu saith mlynedd arall yn y carchar.

Cafodd Graham Drury, 71 oed, gynt o Strathalyn, Yr Orsedd, Wrecsam, ei garcharu am bum mlynedd a hanner yn 2021 ar ôl cyflwyno Ffurflenni TAW twyllodrus i Gyllid a Thollau EF (CThEF).

Mewn gwrandawiad yn Llys y Goron yr Wyddgrug ddydd Gwener (28 Gorffennaf 2023), gorchmynnwyd i Drury dalu gorchymyn atafaelu o £1.2m cyn pen tri mis, neu byddai saith mlynedd yn cael eu hychwanegu at ei ddedfryd yn y carchar.

Meddai Debbie Porter, Arweinydd Gweithredol, Gwasanaeth Ymchwilio i Dwyll CThEF:

“Fe wnaeth Drury ddwyn bron i £2m o arian trethdalwyr i ariannu safon byw foethus, a oedd yn cynnwys filas yn Sbaen, car moethus a dwy oriawr Rolex.

“Mae e eisoes yn talu’r pris am ei droseddau yn y carchar, ac nawr mae’n rhaid iddo werthu ei asedion neu wynebu rhagor o amser eto heb gael ei draed yn rhydd. Os nad yw’n talu’r gorchymyn cyfan, bydd yr arian yn dal i fod yn ddyledus ganddo ar ôl iddo gael ei ryddhau.

“Bydd CThEF bob amser yn ceisio adennill arian sydd wedi’i ddwyn, ac os ydych yn gwybod am unrhyw un sy’n cyflawni twyll treth, gallwch roi gwybod i CThEF amdano ar gov.uk.”

Drwy ddefnyddio ei gwmni, Drury Machine Sales Ltd, roedd Drury yn hawlio ad-daliadau TAW twyllodrus gan CThEF ar beiriannau na phrynwyd erioed.

Defnyddiodd arian wedi’i ddwyn i brynu sawl eiddo; un tŷ yn y DU a thair fila yn Sbaen y byddai’n ymweld â nhw yn aml ar ei wyliau. Roedd asedion eraill yn cynnwys BMW X6, dwy oriawr Rolex a £100,000 mewn cyfrif banc. Mae CThEF wedi atafaelu’r tair fila, y ddwy oriawr a’r £100,000. Os bydd Drury yn methu â thalu ei orchymyn atafaelu, caiff yr asedion hyn eu gwaredu a throsglwyddir yr enillion i bwrs y wlad.

Arestiwyd Drury ar 13 Ionawr 2019, ac yna cafodd ei gyhuddo o dwyll TAW a ddaeth i gyfanswm o £1,887,010. Plediodd yn euog i dwyll TAW yn Llys y Goron yr Wyddgrug ar 2 Awst 2021, a chafodd ei ddedfrydu drannoeth i bum mlynedd a hanner yn y carchar.

Nodiadau i olygyddion

  1. Yn Llys y Goron yr Wyddgrug ar 2 Awst 2021, gwnaeth Graham Drury, dyddiad geni 03/11/1951, o Strathalyn, Yr Orsedd, Wrecsam, bledio’n euog i osgoi TAW gwerth £1,887,010 mewn modd twyllodrus rhwng mis Gorffennaf 2014 a mis Awst 2017. Ar 3 Awst 2021, gerbron yr un llys, cafodd ei garcharu am bum mlynedd a hanner a’i ddiarddel rhag bod yn gyfarwyddwr cwmni am ddeng mlynedd.
  2. Yn Llys y Goron yr Wyddgrug ar 28 Gorffennaf 2023, gorchmynnwyd i Drury dalu gorchymyn atafaelu o £1,263,939.36 cyn pen tri mis, neu fel arall byddai saith mlynedd yn cael eu hychwanegu at ei ddedfryd yn y carchar.
  3. Mae’r tair fila wedi’u lleoli yn rhanbarth Quesada, Sbaen.
  4. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am ddull CThEF o fynd i’r afael â thwyll treth ar wefan gov.uk.
  5. Dilynwch Swyddfa Wasg CThEF ar Twitter @HMRCpressoffice

Topics

Categories

Regions


Issued by HM Revenue & Customs Press Office

HM Revenue & Customs (HMRC) is the UK’s tax authority.

HMRC is responsible for making sure that the money is available to fund the UK’s public services and for helping families and individuals with targeted financial support.

Contacts

HMRC Press Officer - Devolved Nations (WL)

Press Officer Devolved Nations 03000 519 451

HM Revenue & Customs (HMRC) is the UK’s tax authority

HMRC is responsible for making sure that the money is available to fund the UK’s public services and for helping families and individuals with targeted financial support.

HM Revenue & Customs (HMRC)
100 Parliament St
SW1A 2BQ London